Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 101 (Cy.14)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) 2008

Gwnaed

17 Ionawr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

18 Ionawr 2008

Yn dod i rym

1 Ebrill 2008

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 48(2), 49(5), 53(1), (2), (3) a (6), 54(1), (2), (3), (4), (4A), a (4B), 55(1), (2), (3), (7) a (8), 56(2), 56A(4), 57(2) a (3), 58(1), (2), (3), (4), (5), (7) a (7A), 58A, 62(1), 63(2), 64(1) a 2, 70(3) (b), (4A) a (4B), 97, 104(1) a (3) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(a pharagraffau 1(2), 2 (2), (3), (4)(f) a (5), 3(5)(b), 4(4) a (5) a 5(2)(c), (3) a (4) o Atodlen 3A iddi (1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) 2008; deuant i rym ar 1 Ebrill 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) 1992

2.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 19, diwygir Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) 1992(3) fel a ganlyn.

(2) Ar ôl rheoliad 1 mewnosoder y rheoliad canlynol—

Cymhwyso

1A.  Dirymir y Rheoliadau hyn mewn perthynas â Chymru.

Dehongli

3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “amser sy'n sensitif i draffig” (“traffic-sensitive time”), mewn perthynas â stryd sy'n sensitif i draffig yw

(a)

yn achos dynodiad cyfyngedig, yr adegau neu'r dyddiadau a bennir; a

(b)

mewn unrhyw achos arall, unrhyw adeg;

ystyr “categori o ffordd” (“road category”) yw un o'r categorïau o ffyrdd a bennir ym mharagraff 1.3.1 o Bennod S1 o gôd ymarfer 2006 Rhif 72, sy'n dwyn y teitl “Manyleb ar gyfer Adfer Agorfeydd mewn Priffyrdd” dyddiedig Tachwedd 2006 ac a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 24 Ionawr 2007.

ystyr “cofrestr gwaith stryd” (“street works register”) yw cofrestr y mae'n ofynnol i awdurdod stryd ei chadw yn ôl adran 53 o Ddeddf 1991;

ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(4);

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;

ystyr “diwrnod” (“day”) yw diwrnod gwaith;

ystyr “dynodiad cyfyngedig” (“limited designation”) yw dynodiad yn unol â rheoliad 16(3) am adegau penodol neu ar ddyddiadau penodol;

ystyr “y Fanyleb Dechnolegol” (“the Technical Specification”) yw'r Fanyleb Dechnolegol ar gyfer Trosglwyddo Hysbysiadau yn Electronig a luniwyd gan Yr Adran Drafnidiaeth ac sy'n ddyddiedig 5 Gorffennaf 2007 fel y'i hadolygwyd neu y'i hail ddyroddwyd o bryd i'w gilydd,;

ystyr “gwaith brys” (“urgent works”) yw

(a)

gwaith stryd, ac eithrio gwaith argyfwng, y mae'n angenrheidiol eu gwneud ar yr adeg pan gânt eu gwneud

(i)

er mwyn atal neu ddwyn i ben unrhyw ymyrraeth annisgwyl â chyflenwad neu wasanaeth a ddarperir gan ymgymerwr;

(ii)

er mwyn osgoi colled sylweddol i ymgymerwr mewn perthynas â gwasanaeth cyfredol; neu

(iii)

er mwyn ail gysylltu cyflenwadau neu wasanaethau pan fyddai'r ymgymerwr dan atebolrwydd sifil neu droseddol petai'r ail gysylltu yn cael ei ddal yn ôl hyd nes i'r cyfnod hysbysu priodol ddod i ben; a

(b)

mae'n cynnwys gwaith na ellir yn rhesymol ei wahanu oddi wrth waith o'r fath.

ystyr “gwaith disymwth” (“immediate works”) yw gwaith brys neu waith argyfwng;

ystyr “gwaith pwysig” (“major works”) yw

(a)

gwaith stryd a ddynodwyd yn rhaglen weithredol flynyddol ymgymerwr, neu er nas dynodwyd yn benodol mewn rhaglen o'r fath, y byddid fel rheol yn ei gynllunio neu yn dod yn ymwybodol ohono o leiaf chwe mis cyn y dyddiad arfaethedig ar gyfer y gwaith;

(b)

gwaith stryd ac eithrio gwaith disymwth

(i)

pan fo'r awdurdod stryd wedi crybwyll wrth ymgymerwr; neu

(ii)

pan fo ymgymerwr o'r farn

fod angen gorchymyn o dan adran 14 o'r Ddeddf (gwaharddiad neu gyfyngiad dros dro ar ffyrdd); neu

(c)

gwaith stryd, ac eithrio gwaith disymwth, y cynlluniwyd iddynt gymryd mwy na deng niwrnod;

ystyr “gwaith safonol” (“standard works”) yw gwaith stryd, ac eithrio gwaith disymwth neu weithiau pwysig, y cynlluniwyd iddynt gymryd mwy na thri diwrnod ond dim mwy na deng niwrnod.

ystyr “mân weithiau” (“minor works”) yw gwaith stryd ac eithrio gwaith disymwth, na chynlluniwyd iddynt gymryd mwy na thri diwrnod;

ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Arwyddion Traffig 2002(5);

ystyr “stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig” (“street with special engineering difficulties”) yw stryd a ddynodwyd yn un ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig o dan adran 63 o Ddeddf 1991;

ystyr “stryd sy'n sensitif i draffig” (“traffic-sensitive street”) yw stryd a ddynodwyd yn un sy'n sensitif i draffig o dan adran 64 o Ddeddf 1991; ac

ystyr “ymgymerwr statudol” (“statutory undertaker”) yw person sydd â hawl yn rhinwedd hawl statudol i wneud gwaith stryd.

(2) Oni bai bod darpariaeth benodol wahanol, mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn Neddf 1991.

Cofrestrau gwaith stryd

4.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 13 ac i'r gofynion a osodir ym mharagraffau (2) a (3), rhaid i gofrestrau gwaith stryd gael eu cadw mewn modd fydd yn galluogi'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau (4) a (5), ynglŷn â stryd benodol, i gael ei holrhain.

(2) Rhaid i bob cofrestr—

(a) fod wedi'i mynegeio;

(b) heb fod yn ddiweddarach na 1 Ebrill 2009, fod yn seiliedig ar system wybodaeth ddaearyddol; ac

(c) ddynodi'r awdurdod priffyrdd mewn perthynas â phob stryd yn ardal yr awdurdod sy'n briffordd a gynhelir.

(3) Rhaid i bob cofrestr a gedwir gan awdurdod priffyrdd fod ar ffurf sydd yn cydymffurfio â'r system o gyfeirnodi strydoedd a bennir yn Rhan I o'r cyhoeddiad a ddyroddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 1 Awst 2006 dan yr enw “Spatial data sets for geographical referencing — specification for a street gazetteer” o dan gyfeirnod Rhif BS 7666-1 2006(6) fel y'i hadolygwyd neu y'i hail ddyroddwyd o bryd i'w gilydd,

(4) Caiff yr wybodaeth mewn perthynas â gwaith stryd sydd i ymddangos ar y gofrestr a'r person, ymhob achos, sydd â'r cyfrifoldeb o sicrhau ei gofrestru, eu pennu yng ngholofnau (1) a (2) yn eu trefn o'r Tabl a ganlyn.

Tabl

(1) Gwybodaeth (2) Y person sydd â'r cyfrifoldeb o sicrhau ei gofrestru

1.  Manylion pob hysbysiad o dan adrannau 54, 55 a 57 a gyflwynwyd i'r awdurdod priffyrdd ynglyn â gwaith stryd mewn unrhyw stryd sy'n briffordd a gynhelir.

Yr ymgymerwr perthnasol.

2.  Manylion pob hysbysiad o dan adrannau 54, 55 a 57 a gyflwynwyd i reolwyr strydoedd ynglyn â gwaith stryd mewn unrhyw stryd nad yw'n briffordd a gynhelir.

Yr ymgymerwr perthnasol.

3.  Manylion pob cyfarwyddyd a roddwyd o dan adrannau 56 a 56A.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

4.  Manylion pob hysbysiad, cydsyniad a chyfarwyddyd a gyhoeddwyd neu a roddwyd gan awdurdod strydoedd o dan adrannau 58 a 58A.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

5.  Manylion pob hysbysiad a wnaed gan ymgymerwr o dan baragraff 2(1)(d) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991.

Yr ymgymerwr perthnasol.

6.  Manylion pob hysbysiad a gyflwynwyd gan awdurdod strydoedd o dan adran 66.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

7.  Gwybodaeth o dan adran 70(3) a (4A) ynglyn â chwblhau gwaith adfer.

Yr ymgymerwr perthnasol.

8.  Manylion pob hysbysiad a roddwyd gan awdurdod strydoedd o dan adran 72(3).

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

9.  Manylion pob hysbysiad a roddwyd gan awdurdod o dan adran 74.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

10.  Disgrifiad o waith stryd y cyflwynwyd planiau a thrychluniau ar ei gyfer o dan Atodlen 4 i Ddeddf 1991 a'i leoliad.

Yr ymgymerwr perthnasol.

11.  Manylion pob hysbysiad a roddwyd gan unrhyw awdurdod perthnasol o dan Atodlen 4 i Ddeddf 1991.

Yr awdurdod perthnasol.

(5) Caiff yr wybodaeth mewn perthynas â mathau eraill o waith a materion eraill sydd i ymddangos ar y gofrestr a'r person, ymhob achos, sydd â'r cyfrifoldeb o sicrhau ei gofrestru, eu pennu yng ngholofnau (1) a (2) yn eu trefn o'r Tabl a ganlyn.

Tabl

(1) Gwybodaeth (2) Y person sydd â'r cyfrifoldeb o sicrhau ei gofrestru

1.  Pob stryd y mae'r awdurdod priffyrdd lleol yn awdurdod priffyrdd drosti.

Yr awdurdod priffyrdd lleol.

2.  Pob stryd sydd yn briffordd a gynhelir yn rhagolygol

Yr awdurdod priffyrdd lleol.

3.  Pob stryd y mae'r awdurdod priffyrdd yn ymwybodol ohoni sydd yn briffordd, ond nad yw'r awdurdod hwnnw yn awdurdod strydoedd drosti.

Yr awdurdod priffyrdd lleol.

4.  Pob stryd

(a) sydd —

(i) yn stryd a warchodir (7);

(ii) yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig neu

(iii) yn stryd sy'n sensitif i draffig,

gan gynnwys, pan fydd yn briodol, fanylion y rhannau o'r stryd a ddynodwyd felly ac, yn achos stryd sy'n sensitif i draffig, unrhyw ddynodiad cyfyngedig; neu

(b) y bwriedir ei dynodi felly.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

5.  Disgrifiad, amseriad a lleoliad gwaith at ddibenion ffyrdd a gweithiau pwysig priffyrdd sy'n golygu —

(a) darnio'r briffordd;

(b) agor cerbytffordd stryd sy'n sensitif i draffig ar adeg sy'n sensitif i draffig; neu

(c) lleihau lled y gerbytffordd sydd ar gael i draffig cerbydol

(i) o un neu fwy o lonydd traffig;

(ii) o fwy na thraean mewn achos lle nad oes lonydd o'r fath; neu

(iii) o unrhyw led mewn stryd sy'n sensitif i draffig ar adeg sensitif i draffig,

ac unrhyw waith o'r fath y bwriedir ei wneud.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

6.  Manylion pob cydsyniad a roddwyd gan awdurdod strydoedd o dan adran 61 gyda manylion unrhyw amodau.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

7.  Manylion pob cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 62.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

8.  Manylion trwyddedau gwaith stryd, gan gynnwys manylion amodau a newidiadau mewn perchenogaeth.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

9.  Manylion yr offer yr hysbyswyd yr awdurdod strydoedd ohono o dan adran 80(2).

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

10.  Pob hysbysiad o waith o dan adran 85(2)

Yr awdurdod perthnasol.

11.  Manylion cau ffyrdd a gwyriadau pan fo angen gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf 1984.

Yr awdurdod priffyrdd.

12.  Categori ffordd pob stryd.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol

(6) Mae gwybodaeth o'r mathau a ganlyn yn wybodaeth gyfyngedig at ddibenion adran 53(3);

(a) gwybodaeth a gafodd ardystiad neu awdurdodiad yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ei bod yn wybodaeth gyfyngedig oherwydd y byddai ei datgelu yn rhagfarnu gwarchod diogelwch gwladol, neu'n debygol o wneud hynny, a

(b) gwybodaeth a gafodd ardystiad neu awdurdodiad ymgymerwr ei bod yn wybodaeth gyfyngedig oherwydd y byddai ei datgelu yn rhagfarnu buddiannau masnachol yr ymgymerwr hwnnw, neu'n debygol o wneud hynny.

(7) Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “lôn draffig” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “traffic lane” yn rheoliad 4 o Reoliadau 2002 ac mae'n cynnwys llain galed.

  • mae i “llain galed” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “hard shoulder” o dan reoliad 4 o Reoliadau 2002 ac mae'n cynnwys o ran unrhyw briffordd nad yw'n draffordd unrhyw lain galed a ddynodwyd i gymryd pwysau cerbyd ac y mae ei ochr dde neu ei ymyl bellaf wedi'i ddynodi ag arwydd traffig o'r math a ddangosir yn niagram 1012.3 yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny;

  • ystyr “y person sydd â'r cyfrifoldeb dros sicrhau'r cofrestriad” (“person responsible for securing registration”) mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth, yw'r person sydd â'r cyfrifoldeb dros drosglwyddo'r cyfryw wybodaeth i'r awdurdod strydoedd i'w gofrestru yn y gofrestr gwaith stryd;

  • ystyr “system wybodaeth ddaearyddol” (“geographical information system”) yw system ar gyfer dal, storio, gwirio, integreiddio, manipiwleiddio, dadansoddi ac arddangos data sy'n gysylltiedig â phwyntiau ar wyneb y Ddaear; ac

  • mae i “traffordd” yr un ystyr ag sydd i “motorway” o dan reoliad 4 o Reoliadau 2002;

Hysbysiad rhagnodedig

5.—(1) Rhaid i unrhyw hysbysiad at ddibenion adran 54, 55, 57, 58A 66, 70 neu 72(3) fod yn y ffurf a geir yn y Fanyleb Dechnolegol neu mewn ffurf cyffelyb.

(2) Rhaid i hysbysiad at ddibenion adran 54, 55, 57 neu 58A hefyd gynnwys, yn ychwanegol at unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys yn yr hysbysiad gan Ddeddf 1991, unrhyw wybodaeth arall sy'n ofynnol gan y fanyleb honno i gwblhau'r rhannau o'r ffurflen y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) y dangosir ar y ffurflen honno ei bod yn berthnasol i'r hysbysiad.

(3) Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi neu yr awdurdodir ei roi at ddibenion unrhyw ddarpariaeth arall o Ran III o Ddeddf 1991, ac eithrio adran 74 neu Atodlen 4B o'r Ddeddf honno, fod yn ysgrifenedig, fod yn cyfeirio at y ddarpariaeth yn y Ddeddf y'i gwneir oddi tani ac, yn ddarostyngedig i'r uchod, caiff fod mewn unrhyw ffurf.

Dull cyflwyno hysbysiadau

6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (5) a (7), pan fo ymgymerwr dan rwymedigaeth, o dan Ran III o Ddeddf 1991, i roi hysbysiad o fewn cyfnod penodol fod gwaith wedi ei ddechrau, ac eithrio o dan adran 74 rhaid rhoi hysbysiad o'r fath—

(a) drwy ei anfon at y person y mae i'w roi iddo yn ei gyfeiriad priodol gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig yn unol â'r amod a osodir ym mharagraff (4);

(b) drwy ei ddanfon at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw; neu

(c) drwy unrhyw ddull arall y cytunwyd arno rhwng y person sy'n ei roi a'r person y mae i'w roi iddo.

(2) Os nad oes gan berson y mae ymgymerwr dan rwymedigaeth i roi hysbysiad o'r fath iddo drefniadau ar gyfer derbyn ac ymateb i hysbysiadau am unrhyw gyfnod rhwng 4.30pm ac 8.00am y diwrnod wedyn, bydd yr ymgymerwr wedi cydymffurfio â'i rwymedigaeth os bydd yn cyflwyno hysbysiad erbyn 10.00am ar y diwrnod canlynol hwnnw.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (7), mewn unrhyw achos arall pan fo'n ofynnol i berson roi hysbysiad neu yr awdurdodir person i'w roi o dan Ran III o Ddeddf 1991, ac eithrio o dan adran 74 neu Atodlen 4B o'r Ddeddf honno, rhaid rhoi hysbysiad o'r fath —

(a) drwy ei anfon at y person y mae i'w roi iddo yn ei gyfeiriad priodol gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig yn unol â'r amod a osodir ym mharagraff (4);

(b) drwy ei anfon ato drwy'r post dosbarth cyntaf yn y cyfeiriad hwnnw;

(c) drwy ei ddanfon iddo;

(ch) drwy ei adael yn ei gyfeiriad priodol; neu

(d) drwy unrhyw ddull arall y cytunwyd arno rhwng y person sy'n ei roi a'r person y mae i'w roi iddo.

(4) Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) a (3)(a) yw bod rhaid—

(a) bod modd i'r person yr anfonir ef ato gael at yr hysbysiad;

(b) bod yr hysbysiad yn ddarllenadwy ym mhob manylyn perthnasol; ac

(c) bod yr hysbysiad mewn ffurf sy'n caniatáu iddo gael ei gadw er mwyn cyfeirio ato'n ddiweddarach,

ac at y diben hwn, ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn perthnasol” yw bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad ar gael i'r person hwnnw i'r un graddau ag y byddai pes rhoddasid ar ffurf hysbysiad wedi'i argraffu.

(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), o 1 Ebrill 2009 a chan gynnwys y dyddiad hwnnw, rhaid cyfnewid pob hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi dan Ran III o Ddeddf 1991 gan awdurdod strydoedd neu gan ymgymerwr statudol, ac eithrio hysbysiadau o dan Atodlen 4B i'r Ddeddf honno, rhwng un awdurdod strydoedd ac un arall, rhwng un ymgymerwr statudol ac un arall, a rhwng awdurdod strydoedd ac ymgymerwr statudol gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig yn unol â'r amod a osodir ym mharagraff (4).

(6) Yn ddarostyngedig i adran 98(2) (cyfrifo cyfnodau), os defnyddir cyfathrebiad electronig at ddibenion cyflwyno hysbysiad, yna, oni phrofir i'r gwrthwyneb, bernir bod yr hysbysiad wedi'i roi ar y diwrnod ac ar yr adeg a gofnodir gan yr offer trosglwyddo fel dyddiad ac adeg cwblhau'r trosglwyddiad yn foddhaol.

(7) Os, ar ôl tri chynnig (a gofnodwyd yn briodol gan y person sy'n cyflwyno'r hysbysiad) i gyflwyno'r hysbysiad drwy ddefnyddio un dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, na ellir cyflwyno'r hysbysiad, gellir rhoi'r hysbysiad drwy ei gyflwyno i'r person y mae i'w roi iddo mewn unrhyw ddull arall o'r fath ag y mae iddo gyfeiriad priodol neu drwy unrhyw un o'r dulliau eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (3).

(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), at ddibenion y rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y mae hysbysiad i'w roi iddo fydd

(a) os yw'r cyfryw berson—

(i) wedi darparu i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o dan Ddeddf 1991, ac eithrio hysbysiadau o dan adran 74 neu Atodlen 4B i'r Ddeddf honno, drwy ddefnyddio dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig; a

(ii) nad yw wedi hysbysu'r olaf fod y cyfeiriad hwnnw wedi'i dynnu'n ôl at y diben hwnnw,

y cyfeiriad hwnnw o ran y dull hwnnw o drosglwyddo;

(b) os yw'r cyfryw berson wedi darparu i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o'r fath drwy'r post, y cyfeiriad hwnnw o ran cyflwyno drwy'r post,

(c) os yw'r cyfryw berson wedi darparu i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o'r fath drwy unrhyw ddull arall, y cyfeiriad hwnnw o ran y cyfryw ddull arall; ac

(ch) fel arall

(i) yn achos corfforaeth, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r gorfforaeth; a

(ii) mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y cyfryw berson.

(9) Caiff person ddarparu cyfeiriadau gwahanol ar gyfer hysbysiadau gwahanol neu hysbysiadau o ddosbarthiadau gwahanol.

(10) Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Deddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(8); ac

  • ystyr “cyfeiriad” (“address”), o ran dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, yw unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion y cyfryw ddull o drosglwyddo.

Dull cyflwyno copïau o hysbysiadau

7.  Pan fo'n ofynnol rhoi copi o hysbysiad o dan Ran III o Ddeddf 1991, bydd darpariaethau rheoliad 6(3) i (10) yn gymwys yn yr un modd ag y maent yn gymwys i roi hysbysiad o dan y rheoliad hwnnw.

Hysbysiad ymlaen llaw o waith

8.—(1) At ddibenion adran 54, rhaid i ymgymerwr roi dim llai na thri mis o hysbysiad ymlaen llaw o waith pwysig ac eithrio pan fo gwaith o'r fath

(a) yn ddarostyngedig i hysbysiad o dan adran 55(1) a roddwyd yn unol â rheoliad 9(3) ac na roddwyd hysbysiad eisoes ohonynt o dan y paragraff hwn; neu

(b) wedi ei hysbysu o dan baragraff 2(1)(d) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991.

(2) At ddibenion adran 54(4A), y cyfnod a ragnodir fydd 2 ddiwrnod yn dechrau gyda'r dyddiad cychwyn a bennir yn yr hysbysiad.

(3) At ddibenion adran 54(4B) y cyfnod a ragnodir fydd 15 niwrnod.

Hysbysiad o ddyddiad cychwyn gwaith

9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 2(6) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991 a pharagraffau (3), (6) a (7) isod, at ddibenion adran 55, rhaid i ymgymerwr sy'n bwriadu dechrau gwneud gwaith stryd o gategori a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl rhoi cyfnod o hysbysiad o ran y categori hwnnw o ddim llai na'r hyn a ddangosir yng ngholofn 2.

Tabl

(1) (2)
Categori o waith Y cyfnod
Gwaith pwysig 10 diwrnod
Gwaith safonol 10 diwrnod
Mân weithiau 3 diwrnod

(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 6(2) a pharagraffau (6) a (7) isod, at ddibenion adran 55, pan fo ymgymerwr yn bwriadu gwneud gwaith brys mewn unrhyw stryd, rhaid iddo roi hysbysiad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag o fewn dwy awr o fod wedi dechrau ar y gwaith.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), pan fo ymgymerwr

(a) wedi cael hysbysiad o dan adran 58(1) yn cyfyngu ar waith stryd yn y dyfodol yn sgil gwaith stryd sylweddol;

(b) yn bwriadu dechrau gwneud

(i) gwaith stryd, ac eithrio gwaith disymwth, cyn i'r cyfyngiad ddod i rym; neu

(ii) gwaith stryd, ac eithrio gwaith a ganiateir o dan adran 58(5), sy'n golygu darnio rhan o'r briffordd y bydd y cyfyngiad yn gymwys iddo, neu dwnelu neu dyllu oddi tani, tra bo'r cyfyngiad yn weithredol; ac

(c) nad yw eisoes wedi rhoi hysbysiad o ran y gwaith hwnnw yn unol â pharagraff (1),

rhaid iddo, at ddibenion adran 55, roi hysbysiad o'r hyn y bwriada ei wneud ddim mwy na 20 o ddiwrnodau o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad o dan adran 58(1).

(4) At ddibenion adran 55(7), y cyfnod a ragnodir yw —

(a) 5 niwrnod pan fo'r hysbysiad yn ymwneud â gwaith pwysig neu waith safonol; a

(b) 2 ddiwrnod pan fo'n ymwneud â mân weithiau.

(5) At ddibenion adran 55(8), y cyfnod a ragnodir yw 2 ddiwrnod yn dechrau gyda'r dyddiad pan fydd yr hysbysiad yn peidio â bod yn effeithiol.

(6) Nid oes angen rhoi hysbysiad o dan adran 55(1) pan fo ymgymerwr yn bwriadu dechrau gwneud gwaith stryd

(a) mewn stryd nad yw'n stryd sy'n sensitif i draffig;

(b) ar droetffordd stryd sy'n sensitif i draffig ar adeg sy'n sensitif i draffig; neu

(c) mewn stryd sy'n sensitif i draffig, ar adeg nad yw'n sensitif i draffig,

os nad yw'r gwaith yn golygu darnio'r stryd neu dwnelu neu dyllu oddi tani.

(7) Nid yw'n ofynnol i ymgymerwr statudol roi hysbysiad o dan adran 55(1) i unrhyw berson y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo oni bai bod y cyfryw berson wedi gofyn am hysbysiad o'r fath.

(8) Mae is-baragraff (7) yn gymwys i —

(a) unrhyw ymgymerwr statudol sydd ag offer yn y stryd y mae'r gwaith yn debygol o effeithio arno; a

(b) unrhyw berson y byddai ganddo fel arall hawl i gael hysbysiad o'r fath yn rhinwedd fod ganddo yn y stryd ran o bibell wasanaeth yn gorwedd rhwng ffin y stryd a'r stopfalf ar y cyfryw bibell yn y stryd honno neu fod ganddo draen yn y stryd honno.

(9) Ym mharagraff (8) mae i “draen”, “pibell wasanaeth ” a “stopfalf” yr un ystyr ag sydd i “drain”, “service pipe” a “stopcock” yn Neddf y Diwydiant Dwr 1991(9).

Y weithdrefn ar gyfer rhoi cyfarwyddiadau o dan adran 56 neu 56A

10.—(1) Rhaid i bob cyfarwyddyd o dan adran 56(1) neu 56A gael ei roi drwy roi i'r ymgymerwr gopi o'r hysbysiad sy'n ymwneud â'r gwaith a roddir gan yr ymgymerwr hwnnw yn unol â rheoliad 8, neu os nad oes hysbysiad o'r fath yn ofynnol, yn unol â rheoliad 9; gyda'r copi wedi ei ardystio â thelerau'r cyfarwyddyd.

(2) Rhaid i gyfarwyddyd o dan adran 56(1A) gael ei roi drwy roi i'r ymgymerwr gopi o'r hysbysiad o ddechrau ar y gwaith a roddir gan yr ymgymerwr hwnnw o dan adran 74(5C); gyda'r copi wedi ei ardystio â thelerau'r cyfarwyddyd.

(3) O ran hysbysiad o dan reoliad 8 ni fydd cyfarwyddyd o dan adran 56(1) a'r cyntaf o unrhyw gyfarwyddiadau o dan adran 56A yn effeithiol os caiff ei roi fwy na mis ar ôl i'r awdurdod strydoedd gael yr hysbysiad.

(4) O ran hysbysiad yn unol â rheoliad 9(1) neu (2), cyfarwyddyd o dan adran 56(1) a'r cyntaf o unrhyw gyfarwyddiadau o dan adran 56 ni fydd yn effeithiol os caiff ei roi yn ddiweddarach na

(a) 5 niwrnod o'r dyddiad pan gaiff yr awdurdod strydoedd yr hysbysiad yn achos gweithiau pwysig neu waith safonol; a

(b) 2 ddiwrnod o'r dyddiad pan gaiff yr awdurdod strydoedd yr hysbysiad yn achos mân weithiau.

Cyfyngiadau ar waith yn sgil gwaith ffordd sylweddol

11.—(1) At ddibenion adran 58(1), ystyr gwaith ffyrdd sylweddol yw gwaith at ddibenion ffordd sy'n cynnwys ail adeiladu, lledu, altro lefel, rhoi wyneb newydd neu wyneb gwrth-lithro arbenigol ar y rhan o'r briffordd sydd dan sylw ac os caiff ei wneud

(a) ar lwybr troed, troetffordd, llwybr ceffylau neu drac beiciau

(i) sy'n ymestyn am fwy na 30 o fetrau o hyd parhaus; a

(ii) yn achos llwybr troed neu drac beiciau, sy'n golygu bod y lled sydd ar gael i gerddwyr neu feicwyr, yn ôl y digwydd, yn cael ei leihau o fwy na dwy ran o dair; neu

(b) ar y gerbytffordd —

(i) sy'n ymestyn am fwy na 30 o fetrau o hyd parhaus; a

(ii) sy'n golygu bod y defnydd gan gerbydau o'r gerbytffordd yn cael ei wahardd neu bod y lled o'r gerbytffordd sydd ar gael ar gyfer traffig yn cael ei leihau o fwy nag un rhan o dair.

(2) At ddibenion adran 58(1), y cyfnod rhagnodedig fydd —

(a) 5 mlynedd o ran gwaith ffyrdd sylweddol sy'n golygu ail adeiladu;

(b) 3 blynedd o ran gwaith ffyrdd sylweddol sy'n golygu rhoi wyneb newydd ar y briffordd neu altro lefel y briffordd;

(c) 1 flwyddyn o ran unrhyw waith ffyrdd sylweddol arall sy'n cael ei wneud mewn stryd sy'n sensitif i draffig neu mewn stryd yng nghategori ffordd 0, 1 neu 2 nad yw'n stryd sy'n sensitif i draffig; ac

(ch) 6 mis o ran unrhyw waith ffyrdd sylweddol arall sy'n cael ei wneud mewn stryd yng nghategori ffordd 3 neu 4 nad yw'n stryd sy'n sensitif i draffig.

(3) Rhaid i hysbysiad o dan adran 58(1) sy'n ymwneud â chyfyngiad arfaethedig ar waith stryd yn sgil gwaith ffordd sylweddol gael ei gyhoeddi gan yr awdurdod strydoedd perthnasol ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.

(4) At ddibenion adran 58(2), y cyfnod a ragnodir yw 3 mis.

(5) Yn ychwanegol at y rheini y mae'n rhaid rhoi copi o hysbysiad iddynt yn rhinwedd adran 58(3), rhodder copi hefyd

(a) i feddiannydd unrhyw fangre sydd â ffryntiad i'r rhan o'r briffordd y mae'r cyfyngiad arfaethedig yn ymwneud â hi; a

(b) i unrhyw berson arall sydd wedi gwneud cais ysgrifenedig am gopi o unrhyw hysbysiad o'r fath.

(6) Os yw gwaith stryd yn sgil gwaith stryd sylweddol wedi'i gyfyngu gan hysbysiad o dan adran 58(1), bydd yr hysbysiad hwnnw yn peidio â bod yn effeithiol os nad yw'r gwaith stryd y mae'n ymwneud ag ef wedi ei ddechrau'n sylweddol o fewn chwe mis i'r diweddaraf o—

(a) y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y bwriedir dechrau'r gwaith arno; neu

(b) cwblhad pob gwaith a wnaed o ganlyniad i unrhyw hysbysiad a roddwyd i awdurdod strydoedd yn unol â rheoliad 9(3).

(7) At ddibenion adran 58(5), yn ychwanegol at yr achosion a bennir yn yr is-adran honno, caiff ymgymerwr wneud unrhyw waith brys neu unrhyw waith arall a osodir ym mharagraff (8).

(8) Y gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (7) yw gwaith stryd

(a) nad yw'n golygu darnio'r stryd;

(b) y mae angen ei wneud

(i) i ymateb i gais am wasanaeth newydd neu gais i gyflenwi cwsmer nas derbyniwyd ar adeg pan oedd yn ymarferol i'r gwaith gael ei wneud cyn y dyddiad y dechreuodd y cyfyngiad arno; a

(ii) sy'n cael ei wneud fwy nag 19 o ddiwrnodau o'r dyddiad hwnnw;

(c) sy'n cael ei wneud

(i) o dan reoliad 16(3)(b) o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 1998(10) (mesuryddion cyntaf)

(ii) i gydymffurfio â hysbysiad gwella o dan adran 21 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974(11) (hysbysiadau gwella); neu

(iii) o ganlyniad i hysbysiad gwahardd o dan adran 22 o'r Ddeddf honno (hysbysiadau gwahardd); neu

(ch) y mae ei angen

(i) i gydymffurfio â rhaglen a gymeradwywyd o dan reoliad 13A o Reoliadau Diogelwch Piblinellau 1996(12)) (piblinellau haearn); a

(ii) na ellid bod wedi'i ddynodi cyn i'r cyfyngiad ddechrau.

(9) At ddibenion adran 58(7), penderfynir unrhyw gwestiwn sy'n codi ynghylch a yw awdurdod strydoedd yn dal cydsyniad yn ôl yn afresymol drwy gyflafareddu.

(10) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “ail adeiladu” (“reconstruction”) yw symud ymaith rywfaint neu'r cyfan o'r haenau amrywiol sy'n gwneud palmant ffordd a gosod palmant ffordd yn eu lle;

mae i “llwybr beiciau” yr un ystyr ag sydd i “cycle track” yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980(13); ac

ystyr “rhoi wyneb newydd” (“resurfacing”) yw symud ymaith arwynebedd rhedegol cerbytffordd a gosod un arall yn ei le sy'n adfer priodoldeb a'r gallu i wrthsefyll llithro i'r arwynebedd.

(1)

1991 p.22. Diwygir adran 53 yn rhagolygol gan adran 45 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”). Diwygir adran 53 yn rhagolygol, a mewnosodir adrannau (4A), (4B) a (4C) gan adran 49(1) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”). Diwygir adran 55(2) a (5) gan adran 51(9) a 40(1) a (2) o Ddeddf 2004 ac Atodlen 1 iddi, a mewnosodir adran 55(8) a (9) gan adran 49(2) o'r Ddeddf honno. Mewnosodir adran 56A gan adran 44 o Ddeddf 2004. Diwygir adran 58(1), (2), (3), (4), (6)(b) a (7) gan adran 51 o Ddeddf 2004 a mewnosodir adran 58(7A) ganddi. Diwygir adran 58(6)(a) gan adran 40(1) a (2) o'r Ddeddf honno ac Atodlen 1 iddi. Mewnosodir Adran 58A ac Atodlen 3 gan adran 52(1) a (2) . Amnewidir adran 70(3) a (4) gan adran 54 o'r Ddeddf honno a mewnosodir adrannau (1A), (4A) a (4B) ganddi. Diwygir adran 70(6) gan adran 40(3) o Ddeddf 2004 a mewnosodir adran 95A ac Atodlenni 4A a 4B a gan adran 41 o'r Ddeddf honno, ac Atodlenni 2 a 3 iddi. Mae yna ddiwygiadau a diwygiadau rhagolygol eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [1]

(2)

Cafodd holl swyddogaethau Gweinidog y Goron o dan Ddeddf 1991, ac eithrio adran 167(3), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672), erthygl 2, Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 96 Deddf Rheoli Traffig 2004(p.18) (“Deddf 2004”). Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [2]

(3)

O.S. 1992/2985; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/990 a 2128 a 1999/1049. Back [3]

(4)

1984 p.27. Amnewidiwyd adran 14 gan Ddeddf Traffig Ffyrdd ( Cyfyngiadau Dros Dro) 1991, adran 1(1) ac Atodlen 1. Diwygiwyd adran 138(3) gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Canlyniadol) 1988, adran 4 ac Atodlen 3, paragraff 25(8). Back [4]

(5)

Rhan 1 o O.S. 2002/3113, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/1670. Mae yna ddiwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [5]

(6)

ISBN 0 580 48710 5. Back [6]

(7)

Gweler adrannau 61 a 62 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd (1991 p.22). Back [7]

(8)

2000 p.7. Cafodd Adran 15(1) ei diwygio gan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21), adran 406(1) ac Atodlen 17, paragraff 158. Back [8]

(9)

1991 p.56. Cafodd y diffiniad o “service pipe” yn adran 219(1) ei ddiwygio gan adran 92(6) o Ddeddf Dŵr 2003 (p.37). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [9]

(10)

O.S. 1998/2451. Back [10]

(11)

1974 p.37. Cafodd adran 22(1) a (2) eu diwygio, ac amnewidwyd adran 22(4) gan Ddeddf Diogelu Defnyddwyr 1987, adran 3 ac Atodlen 3, paragraff (2). Back [11]

(12)

O.S. 1996/825 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/2563. Back [12]

(13)

1980 p.66; cafodd adran 329(1) ei diwygio gan adran 1(1) o Ddeddf Llwybrau Beiciau 1984 (p.38) a chan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Canlyniadol) 1988 (p.54) ac Atodlen 3, paragraff 21(2). Back [13]