Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 1976 (Cy.185)

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008

Gwnaed

23 Gorffennaf 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Gorffennaf 2008

Yn dod i rym

1 Ionawr 2009

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12(2), 14(1)(d), 15(3), 16(1), 16(3), 22(1), 22(2)(a), (c) a (d), 25(1), 42(1) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2).

(1)

Gweler adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 am y gofyniad i ymgynghori. Back [1]

(2)

2000 p.14. Rhoddir y pwerau i'r “appropriate Minister”. Ystyr “Appropriate Minister” yw'r Cynulliad o ran Cymru: gweler adran 121(1) o'r Ddeddf. Trosglwyddir y pwerau i Weinidogion Cymru gan Atodlen 11 paragraff 30 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Mae adran 42(1) o'r Ddeddf yn darparu y caiff rheoliadau gymhwyso darpariaethau Ran II o'r Ddeddf i bersonau a ragnodir gan y rheoliadau hynny. Yn rhinwedd rheoliad 3 (a wneir o dan adran 42(1) o'r Rheoliadau hyn, ac Atodlen 1 iddynt, gwneir y personau a ragnodir yn rheoliad 3(1) yn ddarostyngedig i'r darpariaethau perthnasol yn Rhan II o'r Ddeddf. Back [2]