Offerynnau Statudol
IECHYD MEDDWL, CYMRU
Gwnaed
15 Medi 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Medi 2008
Yn dod i rym
3 Tachwedd 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 114 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cymeradwyo Personau i fod yn Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 3 Tachwedd 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “AGCLl” (“LSSA”) yw awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol yng Nghymru;
ystyr “AGCLl sy'n cymeradwyo” (“approving LSSA”) yw'r AGCLl sydd wedi cymeradwyo'r person i fod yn GPIMC;
ac eithrio yng nghyd-destun rheoliad 3, mae “cymeradwyo” (“approve”) a “cymeradwyaeth” (“approval”) yn cynnwys “ail gymeradwyo” (“re-approve”) ac “ail gymeradwyaeth” (“re-approval”);
ystyr “cymwyseddau perthnasol” (“relevant competencies”) yw'r sgiliau a nodir yn Atodlen 2;
mae i “Cyngor Gofal Cymru” yr ystyr a roddir i “Care Council for Wales” gan adran 54(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983;
ystyr “gofynion proffesiynol” (“professional requirements”) yw'r gofynion a geir yn Atodlen 1;
ystyr “GPIMC” (“AMHP”) yw gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y caiff AGCLl roi cymeradwyaeth i berson i fod yn GPIMC, os nad yw'r person hwnnw eisoes wedi ei gymeradwyo'n AGCLl o dan y Rheoliadau hyn, neu os nad yw wedi ei gymeradwyo felly o fewn y pum mlynedd flaenorol,—
(a) os yw'r person hwnnw'n bodloni'r gofynion proffesiynol;
(b) os yw'r person hwnnw'n gallu dangos ei fod yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol; ac
(c) os yw'r person hwnnw wedi cwblhau o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf gwrs hyfforddi cychwynnol i GPIMCau a gymeradwywyd gan Gyngor Gofal Cymru.
(2) Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y caiff AGCLl roi cymeradwyaeth i berson i fod yn GPIMC, pan nad yw'r person hwnnw eisoes wedi ei gymeradwyo'n GPIMC o dan y Rheoliadau hyn ond pan yw wedi ei gymeradwyo i weithredu o ran Lloegr neu wedi ei gymeradwyo felly o fewn y pum mlynedd flaenorol—
(a) os yw'r person hwnnw'n bodloni'r gofynion proffesiynol; a
(b) os yw'r person hwnnw'n gallu dangos ei fod yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol a fydd yn galluogi'r person hwnnw i weithredu yng Nghymru neu, yn niffyg hynny, bod y person yn cwblhau'r cyfryw gwrs hyfforddi ag y mae'r AGCLl sy'n cymeradwyo o'r farn bod ei angen i'w alluogi i wneud hynny.
(3) Wrth benderfynu a yw'r person sy'n ceisio cymeradwyaeth fel GPIMC yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol fel sy'n ofynnol o dan baragraffau (1)(b) neu (2)(b) uchod, rhaid i'r AGCLl roi sylw i dystlythyrau'r person hwnnw.
4. Yn ddarostyngedig i reoliad 5, caiff AGCLl gymeradwyo person i fod yn GPIMC am gyfnod o hyd at bum mlynedd.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, bydd cymeradwyaeth GPIMC yn dod i ben cyn gynted ag y bydd y cyfnod o gymeradwyaeth wedi dod i ben.
(2) Bydd cymeradwyaeth person i fod yn GPIMC yn dod i ben cyn i'r cyfnod cymeradwyaeth ddod i ben yn yr amgylchiadau canlynol—
(a) os yw'r person hwnnw'n peidio â chyflawni swyddogaethau GPIMC ar ran AGCLl sy'n cymeradwyo;
(b) os yw'r person hwnnw'n methu â bodloni unrhyw un neu rai o'r amodau a atodwyd i'w gymeradwyaeth yn unol â rheoliad 7;
(c) os nad yw'r person hwnnw mwyach, ym marn yr AGCLl sy'n cymeradwyo, yn meddu ar y cymhwyseddau perthnasol priodol;
(ch) os nad yw'r person hwnnw mwyach yn bodloni'r gofynion proffesiynol;
(d) os bydd AGCLl arall yn cymeradwyo'r person hwnnw yn GPIMC;
(dd) os yw'r person hwnnw'n gwneud cais ysgrifenedig am i'r gymeradwyaeth ddod i ben.
(3) Ar ôl i gymeradwyaeth ddod i ben, rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo hysbysu unrhyw AGCLl arall y mae'n gwybod bod y person hwnnw wedi cytuno i weithredu fel GPIMC iddo o'r ffaith honno.
(4) Os bydd cymeradwyaeth person i fod yn GPIMC yn dod i ben yn yr amgylchiadau a ddarperir ym mharagraff (2)(d) uchod, rhaid i'r AGCLl newydd sy'n cymeradwyo hysbysu'r AGCLl blaenorol sy'n cymeradwyo o'r ffaith honno.
(5) Pan fo'r AGCLl sy'n cymeradwyo'n dod â chymeradwyaeth GPIMC i ben o dan baragraff (2), rhaid i'r AGCLl hwnnw ysgrifennu ar unwaith i hysbysu'r person hwnnw o'r dyddiad y daw'r gymeradwyaeth i ben ac o'r rheswm am ddod â'r gymeradwyaeth i ben.
6.—(1) Os caiff GPIMC, ar unrhyw adeg ar ôl ei gymeradwyo, ei atal rhag bod ar gofrestr neu restr yn unol â bodloni gofynion proffesiynol fel sy'n ofynnol o dan reoliad 3(1), rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo atal cymeradwyaeth y person hwnnw'n tra pery cyfnod ei atal rhag bod ar gofrestr neu restr.
(2) Os atodir amodau i enw GPIMC ar gofrestr neu restr, yn ôl y digwydd, caiff yr AGCLl atodi i'w gymeradwyaeth y cyfryw amodau y mae o'r farn bod eu hangen, neu caiff atal y gymeradwyaeth.
(3) Pan fo'r cyfnod atal y gymeradwyaeth wedi dod i ben, bydd y gymeradwyaeth yn parhau'n weithredol am unrhyw gyfnod cymeradwyaeth nad yw wedi dod i ben, onid yw'r AGCLl sy'n cymeradwyo'n dod ag ef i ben yn gynharach yn unol â rheoliad 5.
7. Bydd unrhyw gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—
(a) rhaid i'r GPIMC gwblhau tra bydd yn parhau'n gymeradwy y cyfryw hyfforddiant ag y mae'r AGCLl sy'n cymeradwyo'n ei wneud yn ofynnol ac yn ôl y cyfryw ysbeidiau ag y mae'r AGCLl yn penderfynu bod eu hangen ;
(b) rhaid i'r GPIMC ddarparu, er boddhad rhesymol yr AGCLl sy'n cymeradwyo a heb fod yn llai aml nag unwaith y flwyddyn ar ôl dyddiad ei gymeradwyo, dystiolaeth ei fod yn parhau i fod â'r cymhwysedd priodol i gyflawni swyddogaethau GPIMC;
(c) os yw'n cytuno i gyflawni dyletswyddau GPIMC ar ran AGCLl arall, rhaid i'r GPIMC hysbysu'n ysgrifenedig yr AGCLl sy'n cymeradwyo cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a rhaid ei hysbysu pan ddaw'r cyfryw gytundeb i ben;
(ch) os yw'r GPIMC yn cael ei gymeradwyo gan AGCLl gwahanol, rhaid i'r GPIMC hysbysu'n ysgrifenedig yr AGCLl sy'n cymeradwyo cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;
(d) os nad yw mwyach yn bodloni unrhyw un neu rai o'r gofynion a geir yn rheoliad 3 neu yn reoliad 8 yn ôl y digwydd, rhaid i'r GPIMC hysbysu'r AGCLl sy'n cymeradwyo ar unwaith;
(dd) os caiff ei atal o fod ar gofrestr neu restr, yn ôl y digwydd, neu os atodir amodau i'w enw ar gofrestr neu restr, rhaid i'r GPIMC hysbysu'r AGCLl sy'n cymeradwyo ar unwaith.
8.—(1) Caiff AGCLl roi cymeradwyaeth yn unol â'r Rheoliadau hyn i berson sydd wedi ei gymeradwyo o'r blaen yng Nghymru, a bod y cyfryw gymeradwyaeth wedi bod mewn grym o fewn y pum mlynedd flaenorol cyn dyddiad arfaethedig yr ail gymeradwyaeth yn yr amgylchiadau canlynol —
(a) os yw'r person hwnnw'n bodloni'r gofynion proffesiynol; a
(b) os yw'r person hwnnw'n gallu dangos ei fod yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol.
(2) Wrth benderfynu a yw'r person sy'n ceisio cymeradwyaeth i fod yn GPIMC yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol fel sy'n ofynnol o dan baragraff (1)(b) uchod, rhaid i'r AGCLl roi sylw i dystlythyrau'r person hwnnw.
9.—(1) Rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo gadw cofnod o bob person y mae'n ei gymeradwyo'n GPIMC, gan gynnwys—
(a) ei enw;
(b) ei broffesiwn;
(c) y dyddiad y'i cymeradwywyd;
(ch) y cyfnod y rhoddir cymeradwyaeth ar ei gyfer;
(d) manylion ynghylch cwblhau unrhyw hyfforddiant y cyfeirir ato yn rheoliad 7(a);
(dd) tystiolaeth a roddwyd iddo gan y GPIMC o dan reoliad 7(b);
(e) enw pob AGCLl arall y mae'r cyfryw berson yn gweithredu fel G PIMC iddo;
(f) unrhyw fanylion am gymeradwyaeth yn dod i ben neu am atal cymeradwyaeth, neu am amodau a atodwyd iddi.
(2) Rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo gadw'r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 uchod ac sy'n ymwneud â phersonau a gymeradwywyd ganddo'n GPIMCau am dair blynedd yn dilyn diwedd cymeradwyaeth y cyfryw bersonau.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2008
1983 p.20. Amnewidiwyd adran 114 gan adran 18 o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (p.12). Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi dyroddi rheoliadau ar wahân o ran Lloegr. Back [1]