Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 2602 (Cy.228)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2008

Gwnaed

1 Hydref 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Hydref 2008

Yn dod i rym

29 Hydref 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e),17(1), (26)(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi a chychwyn

1.  O ran y Rheoliadau hyn—

(a) eu henw yw Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2008; a

(b) deuant i rym ar 29 Hydref 2008.

Diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007

2.—(1) Diwygir Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007(4) yn unol â'r paragraffau canlynol.

(2) Yn lle darpariaethau rheoliad 3 (gwaharddiad ar farchnata fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol oni fo amodau penodol wedi'u bodloni) rhodder y darpariaethau canlynol—

(1) Ni chaiff neb farchnata fformiwla sy'n torri rheoliad 5, 6, 8, 10, 11, 12, 14(1), (2) neu (3), 15, 17, 19 neu 20(1) neu nad yw'n cydymffurfio â hwy.

(2) Ni chaiff neb farchnata fformiwla ddilynol sy'n torri rheoliad 5, 7, 9, 10, 11, 12, 14(1), (2) neu (3), 16, 18, 19 neu 20(2) neu nad yw'n cydymffurfio â hwy..

(3) Yn lle paragraffau (1) a (2) o reoliad 20 (cyflwyno (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)) rhodder y paragraffau canlynol—

(1) Rhaid i gyflwyniad fformiwla fabanod gydymffurfio â darpariaethau rheoliadau 17(1)(d), (2), (3) a (4) ac 19.

(2) Rhaid i gyflwyniad fformiwla ddilynol gydymffurfio â darpariaethau rheoliadau 18(2) ac 19..

(4) Yn lle is-baragraff (a) o baragraff (1) o reoliad 26 (allforio fformiwla fabanod i drydydd gwledydd) rhodder yr is-baragraff canlynol—

(a) rheoliad 5, 6, 8, 10, 11, 12, 14(1), (2) neu (3), 17, 19 neu 20(1);.

(5) Yn lle paragraff (a) o reoliad 27 (allforio fformiwla ddilynol i drydydd gwledydd) rhodder y paragraff canlynol—

(a) rheoliad 5, 7, 9, 10, 11, 12, 14(1), (2) neu (3), 18, 19 neu 20(2);.

(6) Yn lle paragraff (3) o reoliad 31 (dirymu a threfniadau trosiannol) rhodder y paragraff canlynol—

(3) Mewn perthynas ag unrhyw dorri rheol neu fethiant i gydymffurfio cyn 1 Ionawr 2010, nid yw unrhyw berson yn cyflawni tramgwydd o dan reoliad 28(1) sy'n cynnwys torri rheol neu fethiant i gydymffurfio ag—

(a) rheoliad 3(1),—

(i) os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla fabanod sy'n torri neu'n methu cydymffurfio â rheoliad 5, 6, 8, 10, 11, 12 neu 14 (1), (2) neu (3), a

(ii) nad yw'r weithred honno yn ffurfio tramgwydd o dan reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 sy'n cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â Rheoliad 2(a)(i) neu (ii) o'r Rheoliadau hynny;

(b) rheoliad 3(1),—

(i) os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla fabanod sy'n torri neu'n methu cydymffurfio â rheoliad 17 neu 19, a

(ii) na fyddai'r weithred honno, petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 2(a)(iii) o'r Rheoliadau hynny;

(c) rheoliad 3(1),—

(i) os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla fabanod sy'n torri neu'n methu cydymffurfio â rheoliad 20(1) i'r graddau y mae rheoliad 20(1) yn gymwys o ran siâp, ymddangosiad a phecynnu'r fformiwla fabanod honno, a

(ii) na fyddai'r weithred honno, petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 2(a)(iv) o'r Rheoliadau hynny i'r graddau yr oedd rheoliad 2(a)(iv) yn gymwys o ran siâp, ymddangosiad a phecynnu'r cynnyrch o dan sylw;

(ch) rheoliad 3(2),—

(i) os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla ddilynol sy'n torri neu'n methu cydymffurfio â rheoliad 5, 7, 9, 10, 11, 12 neu 14 (1), (2) neu (3), a

(ii) nad yw'r weithred honno yn ffurfio tramgwydd o dan reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 sy'n cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 3(a) neu (b) o'r Rheoliadau hynny;

(d) rheoliad 3(2),—

(i) os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla ddilynol sy'n torri neu'n methu a chydymffurfio â rheoliad 18 neu 19, a

(ii) na fyddai'r weithred honno petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 3(c) o'r Rheoliadau hynny;

(dd) rheoliad 3(2),—

(i) os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla ddilynol sy'n torri neu'n methu a chydymffurfio â rheoliad 20(2) i'r graddau y mae rheoliad 20(2) yn gymwys o ran siâp, ymddangosiad a phecynnu'r fformiwla ddilynol honno, a

(ii) na fyddai'r weithred honno, petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 3(d) o'r Rheoliadau hynny i'r graddau yr oedd rheoliad 3(d) yn gymwys i siâp, ymddangosiad a phecynnu'r cynnyrch o dan sylw; neu

(e) rheoliad 4, na fyddai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yn ffurfio tramgwydd o dan reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 sy'n cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 2(b)(i) neu (ii) o'r Rheoliadau hynny;

(f) rheoliad 4, na fyddai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd, petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 2(b)(iii) o'r Rheoliadau hynny; neu

(ff) rheoliad 4, na fyddai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd, petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 2(b)(iv) o'r Rheoliadau hynny i'r graddau yr oedd rheoliad 2(b)(iv) yn gymwys i siâp, ymddangosiad a phecynnu'r cynnyrch o dan sylw..

Diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000

3.—(1) Diwygir Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000(5) yn unol â pharagraff (2).

(2) Ar ôl rheoliad 7 (cymhwyso) mewnosoder y rheoliad canlynol—

Trefniadau trosiannol

8.  O ran unrhyw dorri rheol cyn 1 Ionawr 2010, ni fydd unrhyw berson yn cyflawni tramgwydd o dan reoliad 5(a) sy'n torri rheoliad 3(1)(a) os yw'r weithred a fyddai fel arall yn ffurfio tramgwydd yn cynnwys gwerthu bwyd meddygol y mae ei gyfansoddiad yn methu â chydymffurfio ag Erthygl 3 o'r Gyfarwyddeb fel y'i darllenir gyda'r rhes o ran manganîs a osodir yn ail ran Tabl 1 (mwynau) yn yr Atodiad i'r Gyfarwyddeb fel yr oedd yn sefyll cyn iddi cael ei diwygio gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ar fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac yn diwygio Cyfarwyddeb 1999/21.EC..

Gwenda Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

1 Hydref 2008

(1)

1990 p.16; amnewidwyd adran1(1) a (2) (y diffiniad o “bwyd”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y Swyddogaethau hyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]

(3)

OJ Rhif . L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 202/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch nifer ac enwau Panelau Gwyddonol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L60, 5.3.2008, t.17). Back [3]

(4)

O.S. 2007/3573 (Cy.316). Back [4]

(5)

O.S. 2000/1866 (Cy.125), a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/3573 (Cy.316); y mae offerynnau diwygio eraill i'w cael, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol. Back [5]