Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 3200 (Cy.285)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2008

Gwnaed

15 Rhagfyr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Rhagfyr 2008

Yn dod i rym

8 Ionawr 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), a chan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer bwriad a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2008, daw i rym ar 8 Ionawr 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

(2) Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “ardaloedd llai ffafriol” (“less favoured areas”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;

  • mae i'r ymadrodd “hectar cymwys” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “eligible hectare” yn Erthygl 44(2) o Reoliad y Cyngor 1782/2003;

  • ystyr “mapiau dynodedig (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1999, sydd wedi eu Rhif o 1 a 2, y mae'r naill gyfrol a'r llall wedi eu marcio â “Volume of Maps of less favoured farming areas in Wales” ac â Rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'u hadneuo yn swyddfeydd Adran Amaethyddiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1782/2003” (“Council Regulation 1782/2003”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin, yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio Rheoliadau penodol(4);

  • ystyr “taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw cymorth ariannol a delir yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006(5);

  • ystyr “tir cymwys” (“eligible land”) yw'r rhan honno o'r tir cymhwysol sydd o fewn ardal lai ffafriol;

  • ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n las ar y mapiau dynodedig;

  • ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n binc ar y mapiau dynodedig.

Asesu cynhwysedd cynhyrchu tir

2.—(1) Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael eu heffaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchu uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr paragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

(2) Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yna—

(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a

(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2008, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir gydag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.

(3) Os yw tir sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net pan ffermir ef dan reolaeth gymwys yn gymwys i dderbyn taliad Tir Mynydd (fel y crybwyllir yng nghofnod 4 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn) neu os oedd y tir wedi ei neilltuo rhag cynhyrchu yn 2007 (fel y crybwyllir yng nghofnod 5 yn y golofn honno), neu os oedd yn hectar cymwys yn 2007 (fel y crybwyllir yng nghofnod 6 yn y golofn honno), yna—

(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a

(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2008, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.

Dirymu

3.  Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2008(6).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

15 Rhagfyr 2008

Erthygl 2

YR ATODLEN UNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENNU INCWM BLYNYDDOL NET

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Defnydd Ffermio Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£)
  • NODIADAU I'R ATODLEN

a

Y ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis yw hwn. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn.

b

Y ffigur ar gyfer anifeiliaid (waeth beth fo'u hoed) a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis yw hwn. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn.

c

Mae'r ffigur hwn yn cynnwys y premiwm cnwd protein y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 76 o Reoliad y Cyngor 1782/2003.

1. Da byw
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel) Buwch 437
Buchod bridio cig eidion
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynydd buwch −104
Ar dir arall buwch −99
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) y pen −69a
Buchod llaeth i lenwi bylchau y pen 83b
Mamogiaid:
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynydd mamog −18
Ar dir arall mamog −16
ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) y pen 3.30
Moch:
Hychod a banwesau torrog hwch neu fanwes 163
Moch porc y pen 5
Moch torri y pen 7.10
Moch bacwn y pen 8.90
Dofednod
Ieir dodwy aderyn 2.30
Brwyliaid aderyn 0.30
Cywennod ar ddodwy aderyn 0.55
Tyrcwn Nadolig aderyn 5.85
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar 111
Ffa hectar 125.72c
Had porfa hectar 333
Rêp had olew hectar 92
Pys
Sych hectar 215.72c
Dringo hectar 294
Tatws:
Cynnar cyntaf hectar 2344
Prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 2057
Betys siwgr hectar 387
Gwenith hectar 274
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau'r berllan hectar 2230
Ffrwythau meddal hectar 6800
4. Tir Porthiant
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynydd hectar Swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan reoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006
5. Neilltir
Tir a oedd yn 2007 wedi ei neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o Reoliad y Cyngor 1782/2003:
Tir dan anfantais ddifrifol hectar 12.57
Tir dan anfantais hectar 24.96
Pob tir arall hectar −70.54
6. Hectarau cymwys
Tir a oedd yn 2007 yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 1782/2003, ac eithrio tir a oedd wedi ei neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o'r Rheoliad hwnnw:
Tir dan anfantais ddifrifol hectar 122.69
Tir dan anfantais hectar 153.51
Pob tir arall hectar 102.55
(1)

1986 p.5. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p.5) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddi. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]

(3)

1972 p.68. Back [3]

(4)

OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 674/2008 (OJ Rhif L189, 17.7.2008, t.5). Back [4]

(5)

O.S. 2006/3343 (Cy.304). Back [5]

(6)

O.S. 2008/253 (Cy.29). Back [6]